European Union
en | cy
string(2) "78"
Press release |

Angen cynllun gweithredu i gau bwlch ariannu gadael yr UE

Datganiad gan ASE CRhE Jill Evans (Plaid Cymru)

Mewn llythyr at Brif weinidog y Deyrnas Gyfunol, mae’r Aelod o Senedd Ewrop dros Gymru, Jill Evans, wedi ymuno â galwadau gan grŵp trawsbleidiol o Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn galw ar Theresa May i roi cynnig ar waith fydd yn cymryd lle’r arian a geir ar hyn o bryd gan yr UE pan fydd yn dod i ben .

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn elwa gan biliynau o bunnoedd o’r Undeb Ewropeaidd. Bydd y cylch ariannu presennol yn rhedeg o 2014-2020, ac erbyn hynny bydd disgwyl bod Cymru wedi derbyn £2.06 biliwn mewn nawdd gan yr UE.

Canfu ymchwil gan Gynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol (CPMR) y bydd Cymru yn colli tua £2.5 biliwn yn ystod y cylch nesaf fyddai’n rhedeg o 2021-2027.

Yn y llythyr a lofnodwyd gan 16 Aelod Seneddol Ewropeaidd o nifer o bleidiau, nodir fod ofn gan nifer o awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector’ ynglŷn ag anallu’r llywodraeth i gau’r bwlch a chyfrannu arian y ei le:

“Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dyfnhau’r anghydraddoldeb dychrynllyd sydd eisoes yn difetha’n cymunedau. Credwn mai aros yn yr UE yw’r unig fargen dda ar gyfer ein cymunedau. Ond os mai gadael yr UE fydd hanes y Deyrnas Gyfunol ddiwedd y mis nesaf, galwn arnoch chi i fwrw ymlaen ar frys gyda chynnig fydd yn sicrhau bod arian yn cael ei roi i lenwi’r bwlch ariannol, tra’n parchu cymwyseddau’r llywodraethau datganoledig yn llawn.”

Wrth wneud sylwadau ynglŷn â’r llythyr, dywedodd Jill Evans,

“Mae anghydraddoldeb yn y DG yn uwch nac unrhyw aelod wladwriaeth yn yr UE. Os ydym am ddod â’r anghydraddoldeb dychrynllyd hwn i ben, yna gadael yr UE yw’r peth olaf ddylai Cymru ei wneud. Byddai colli ariannu Ewropeaidd hanfodol yn beth andwyol i Gymru.

“Pe bawn yn gadael yr UE, dylai Llywodraeth y DG weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cymunedau tlotaf Cymru yn parhau i dderbyn nawdd, er mwyn lleihau’r gwahaniaethau rhanbarthol syfrdanol a achosir gan lymder.”

Responsible MEPs

Jill Evans
Jill Evans
Member

Please share